About

I am a Lithuania-born, interdisciplinary artist, illustrator, and photographer based in Penarth. I came to Wales in 2005 to work and develop further studies of design for media and am now fully immersed into Welsh Culture. My artistic practice is driven by an interdisciplinary approach to art and design, focusing on themes such as mental health, vulnerability, self-reflection, and wellbeing.  

My current creative practice involves experimenting with new drawing techniques. This journey has brought me back to the core aims of my work: creating art that resonates deeply on a personal level and is rooted in the shared experiences that connect us as humans.  

I am particularly interested in creating artwork for public spaces, encouraging introspection, environmental justice, sparking conversations, and inspiring change around and within us, both as an individual artist and in the context of developing collaborative projects with other artists. 

If you’re an artist or organization interested in collaborating on a project, booking a creative workshop, or just having a conversation, feel free to reach out at hello@ingak.uk

Amdanaf i 

Rwy’n artist, yn ddarlunydd ac yn ffotograffydd rhyngddisgyblaethol wedi fy ngeni yn Lithwania ond bellach yn byw ym Mhenarth. Fe ddes i i Gymru yn 2005 i weithio a datblygu astudiaethau pellach mewn dylunio ar gyfer y cyfryngau ac rwy bellach wedi fy nhrwytho’n llwyr yn niwylliant Cymru. Mae dilyn trywyddau rhyngddisgyblaethol mewn celf a dylunio yn ganolog i fy ymarfer artistig, sy’n canolbwyntio ar themâu fel iechyd meddwl, bregusrwydd, hunanfyfyrio a lles.   

Yn fy ymarfer creadigol presennol rwy’n arbrofi gyda thechnegau lluniadu newydd. Yn sgil y daith hon rwy wedi dychwelyd at amcanion craidd fy ngwaith: creu celf sy’n creu argraff ddofn ar lefel bersonol ac sydd wedi’i gwreiddio yn y profiadau rydym yn eu rhannu ac sy’n ein cysylltu ni fel pobl.  

Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn creu gwaith celf ar gyfer mannau cyhoeddus, annog myfyrdod a rhoi sylw i’r bywyd mewnol, cyfiawnder amgylcheddol, sbarduno trafodaethau, ac ysbrydoli newid o’n cwmpas ac o’n mewn, a hynny fel artist unigol ac yng nghyd-destun datblygu prosiectau ar y cyd ag artistiaid eraill. 

Os ydych chi’n artist neu’n sefydliad sydd â diddordeb mewn cydweithio ar brosiect, trefnu gweithdy creadigol, neu ddim ond cael sgwrs, mae croeso i chi gysylltu ar hello@ingak.uk

“Mae byd natur yn ffynnon ysbrydoliaeth ddifesur yn fy ymarfer creadigol, yn ymgorffori symlrwydd mynegiant creadigol a’i gymhlethdod hefyd.”

‘‘Nature serves as a profound wellspring of inspiration within my creative practice, embedding both the simplicity and complexity of creative expression.’’

Values

Kindness to Nature

Being kind to nature means being kind to ourselves and to those around us. Through sustainable art practices, I actively deepen my connection to the complex relationships between people, plants, landscapes, and the environment, contributing to a more sustainable future.

Vulnerability

I view vulnerability as a powerful strength. By embracing openness and honesty about our challenges and uncertainties, we support a culture of trust and authenticity. This allows us to encourage each other and grow both personally and professionally.

Community

Community is our foundation. I am committed to cultivating an inclusive and supportive environment where everyone feels valued and connected. Together, we nurture strong relationships and foster a sense of belonging.

Collaboration

I believe in the power of collaboration. By uniting our knowledge, resources, and diverse perspectives through interdisciplinary approaches, we achieve meaningful results and create positive, lasting change.

Gwerthoedd

Caredigrwydd at Fyd Natur  

Mae bod yn garedig â byd natur yn golygu bod yn garedig â ni ein hunain ac â’r rhai o’n cwmpas. Drwy ymarfer celf mewn ffordd gynaliadwy, rwy’n mynd ati i ddwysáu fy nghysylltiad â’r berthynas gymhleth rhwng pobl, planhigion, tirweddau a’r amgylchedd, gan gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Bregusrwydd

I mi mae bregusrwydd yn rhinwedd pwerus. Trwy groesawu parodrwydd i fod yn agored a gonest am yr hyn sy’n ein herio ac yn peri ansicrwydd i ni, gallwn feithrin diwylliant o ymddiriedaeth a dilysrwydd. Mae hyn yn caniatáu i ni annog ein gilydd a thyfu, a hynny’n bersonol ac yn broffesiynol.

Cymuned  

Cymuned sy’n ein gwreiddio. Rwy’n ymdrechu i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol ble mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod wedi’u cysylltu. Gyda’n gilydd, rydym yn meithrin perthnasoedd cryf ynghyd ag ymdeimlad o berthyn.

Cydweithio

Rwy’n credu yng ngrym cydweithio. Drwy ddod â’n gwybodaeth, ein hadnoddau a’n gwahanol safbwyntiau ynghyd drwy weithio’n rhyngddisgyblaethol, gallwn gyflawni canlyniadau ystyrlon a chreu newid cadarnhaol hirdymor. 

Collaboration

Collaboration is important part of my creative practice. Through meaningful partnerships, I have supported projects that highlight the importance of collaboration, nurture the development of creative ideas, promote sustainability, kindness to nature and cultural enrichment—driven by the belief that great achievements originate from shared vision and action. 

Cydweithio

Mae cydweithio yn rhan bwysig o fy ymarfer creadigol. Trwy gyfrwng partneriaethau ystyrlon, rwy wedi cefnogi prosiectau sy’n amlygu pwysigrwydd cydweithio, sy’n meithrin datblygiad syniadau creadigol, ac sy’n hybu cynaliadwyedd, caredigrwydd at fyd natur a chyfoethogi diwylliannol — a hynny oll wedi’i sbarduno gan y gred bod ein llwyddiannau’n ddibynnol ar gydweledigaeth a chydweithio. 

“Mae Inga wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu cymuned greadigol o amgylch cyfleuster y Lle Creu yn Llyfrgell Penarth. Yn 2022 sefydlodd Inga y grŵp ffotograffiaeth/celf Ffrindiau Lens fel rhan o’i gwaith gwirfoddol yn Llyfrgell Penarth. Mae hi wedi trefnu cyfarfodydd, gweithdai, sgyrsiau ag artistiaid a digwyddiadau rheolaidd. Mae ei hymroddiad diwyro i’r rôl hon wedi dod â grŵp o bobl greadigol ynghyd nad oedd unrhyw gysylltiad rhyngddynt o’r blaen, a hynny’n arwain at gyfeillgarwch a chysylltiadau newydd. Fy rôl i yw datblygu Llefydd Creu yn Llyfrgelloedd Bro Morgannwg. Ein nod yw dod â phobl ynghyd o amgylch prosiectau creadigol cydweithredol ac mae ein gwasanaeth wedi elwa’n fawr o gefnogaeth ac ymdrechion Inga.”

- Dr Simon Alexander, Swyddog Datblygu Lle Creu 

“Inga has played a key role in developing a creative community around our Makerspace facility in Penarth Library. In 2022 Inga founded the Lens Friends photography/art group as part of her volunteer role in Penarth Library. She has organised regular meet-ups, workshops artist talks and events. Her unwavering dedication to this role has brought together a group of creatives with no previous connection resulting in new friendships and connections. My role is to develop Makerspaces in Vale of Glamorgan Libraries, we aim to bring people together around collaborative creative projects and our service has benefitted greatly from the support and efforts of Inga.”

- Dr Simon Alexander, Makerspace Development Officer 

If my work resonates and you’d like to collaborate, feel free to reach out. Os yw fy ngwaith yn apelio atoch ac hoffech gydweithio, cysylltwch i ddechrau sgwrs.

Contact / Cysylltu