Coastal walk inspired drawings in Partnership with Penarth Makerspace

What do we see when we stop looking forward to start looking inward?

We often chase the next goal, the next milestone, and the next version of ourselves, but sometimes, real growth happens in letting things go and finding peace in stillness.

These are series, inspired by the raw beauty of the Welsh coastline, reflects my deep connection with nature and its ability to heal and renew creative energy. Originating from sketchbook drawings made during coastal walks, each piece captures the textures of nature. Some of these drawings have been transformed into laser-cut designs, offering a new interpretation through physical form. This work adopts an interdisciplinary approach, combining drawing, craft, and digital fabrication, while emphasizing sustainability using responsibly sourced materials. Through this process, I explore how traditional practices and modern technology can coexist by connecting a deeper relationship with the natural world. Laser cutting facilities were generously provided by Penarth/Barry Makerspace, which allowed me to experiment and use the technique to precisely craft intricate designs that reflect both heritage and innovation.

Skills: art, design, research, drawing, mindfulness, self reflection, technology, laser cut, project management, budget

Lluniadau wedi’u hysbrydoli gan gerdded ar yr arfordir mewn Partneriaeth â Lle Creu Penarth

Beth welwn ni pan fyddwn ni’n peidio ag edrych ymlaen er mwyn dechrau edrych i mewn?

Mor aml ry’n ni’n brysur yn anelu am y nod nesa, y garreg filltir nesa, a’r fersiwn nesa ohonon ni’n hunain. Ond weithiau, dim ond drwy ollwng ein gafael y gallwn dyfu go iawn a theimlo’r hedd a geir mewn llonyddwch.

Cyfresi yw’r rhain, wedi’u hysbrydoli gan harddwch moel arfordir Cymru, sy’n adlewyrchu fy nghysylltiad dwfn â natur a’i gallu i iacháu ac adfywio egni creadigol. Yn seiliedig ar frasluniau a wnaed wrth gerdded yr arfordir, mae pob darn wedi’i ysbrydoli gan weadau byd natur. Mae rhai o’r lluniadau hyn wedi’u trawsnewid yn ddyluniadau toriad laser, sy’n cynnig dehongliad newydd mewn ffurf faterol. Mae’r gwaith hwn yn dilyn dull rhyngddisgyblaethol, drwy gyfuno lluniadu, crefft a gweithgynhyrchu digidol. At hynny, mae’n pwysleisio cynaliadwyedd drwy gael gafael ar ddeunyddiau mewn ffordd gyfrifol. Drwy’r broses hon, rwy’n archwilio sut gall arferion traddodiadol a thechnoleg fodern gydfodoli drwy gysylltu perthynas ddyfnach â’r byd naturiol. Cefais ddefnyddio cyfleusterau torri â laser drwy haelioni Lle Creu y Barri, ac yn sgil hynny bu modd i mi arbrofi a defnyddio’r dechneg i saernïo dyluniadau cywrain sy’n adlewyrchu treftadaeth ac arloesi.

Sgiliau: celf, dylunio, ymchwil, lluniadu, meddwlgarwch, hunanfyfyrio, technoleg, torri â laser, rheoli prosiectau, cyllidebu

Previous
Previous

Public Art Commission / Comisiwn Celf Gyhoeddus

Next
Next

Where Welsh music meets Lithuanian ritual / Cydblethu cerddoriaeth Gymreig a defodau Lithwania